Jeremy Corbyn
Mae Jeremy Corbyn wedi rhoi rôl allweddol yn ei gabinet cysgodol i’w gefnogwyr a rhai o’i wrthwynebwyr wrth iddo ddechrau’r dasg anodd o geisio uno’r blaid ar ôl iddo gael ei ethol yn arweinydd newydd Llafur.
Andy Burnham – yr unig un o’r tri ymgeisydd arall am arweinyddiaeth y blaid sydd heb wrthod ymuno a’i gabinet – sy’n cymryd lle Yvette Cooper fel llefarydd ar faterion cartref. Fe fydd yn goruchwylio tasglu’n ymwneud a’r argyfwng ffoaduriaid.
John McDonnell, yr aelod asgell chwith a rheolwr ymgyrch Corbyn, yw’r Canghellor cysgodol fydd a’r dasg o gyflwyno neges gwrth-lymder yr arweinydd.
Mae Hilary Benn wedi cadw ei rôl fel ysgrifennydd tramor cysgodol, a’r Arglwydd Falconer fydd yn gyfrifol am gyfiawnder.
Mae Chris Bryant, AS y Rhondda wedi cael ei benodi’n arweinydd Tŷ’r Cyffredin.
Angela Eagle fydd y Prif Ysgrifennydd Gwladol cysgodol yn ogystal â’r ysgrifennydd busnes cysgodol – gan olygu mai hi fydd yn cymryd lle Corbyn yn ystod cwestiynau’r Prif Weinidog pan fydd yr arweinydd Llafur yn absennol.
Heidi Alexander sy’n gyfrifol am iechyd, Diane Abbott fydd yng ngofal datblygiad rhyngwladol, Seema Malhotra fydd dirprwy John McDonnell ac mae Rosie Winterton yn parhau’n brif chwip.
Ymhlith y swyddi sydd eto i’w cadarnhau mae Ysgrifennydd Gwladol cysgodol Cymru.
‘Siomedig’
Ond mae nifer o wleidyddion Llafur wedi beirniadu’r penderfyniad i benodi dynion i’r rhan fwyaf o’r swyddi allweddol.
Dywedodd yr AS Llafur Diana Johnson bod y cabinet cysgodol yn “siomedig iawn”. Roedd Corbyn wedi dweud y byddai’n ceisio sicrhau cydbwysedd 50:50 o ferched a dynion.
Mae nifer o enwau allweddol yn y blaid wedi gwrthod ymuno a’r cabinet cysgodol gan gynnwys Chuka Umunna sy’n dychwelyd i’r meinciau cefn. Roedd Jeremy Corbyn wedi gwrthod sicrhau y byddai Llafur yn ymgyrchu i aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd yn y refferendwm yn 2017.
Mae Mary Creagh, Liz Kendall, a ddaeth yn olaf yn y ras i ddewis arweinydd newydd, Tristram Hunt, Rachel Reeves, Chris Leslie, Emma Reynolds a Jamie Reed hefyd wedi dweud na fyddan nhw’n rhan o’r arweinyddiaeth newydd.
Fe gyhoeddwyd mai Jeremy Corbyn oedd olynydd Ed Miliband ddydd Sadwrn ar ol iddo ennill 59.5% o’r pleidleisiau.
Mae disgwyl iddo wneud ei ymddangosiad cyntaf fel arweinydd y blaid yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw wrth i Lafur wrthwynebu cynlluniau’r Llywodraeth i geisio atal cynnal streiciau.
Y Cabinet cysgodol hyd yn hyn:
Canghellor cysgodol: John McDonnell
Ysgrifennydd Cartref cysgodol: Andy Burnham
Ysgrifennydd Tramor cysgodol: Hilary Benn
Ysgrifennydd Iechyd cysgodol: Heidi Alexander
Prif Ysgrifennydd y Trysorlys cysgodol: Seema Malhotra
Ysgrifennydd Busnes a Phrif Ysgrifennydd Gwladol cysgodol: Angela Eagle
Ysgrifennydd Cyfiawnder cysgodol: Arglwydd Falconer
Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon cysgodol: Vernon Coaker
Ysgrifennydd Gwladol yr Alban cysgodol: Ian Murray
Ysgrifennydd Datblygiad Rhyngwladol cysgodol: Diane Abbott
Prif Chwip: Rosie Winterton
Ysgrifennydd Addysg cysgodol: Lucy Powell
Arweinydd Tŷ’r Cyffredin cysgodol: Chris Bryant