Mae lluoedd arfog yr Aifft wedi lladd o leiaf 12 o bobol gan anafu 10 arall ar ol tanio gynnau at grwp o ymwelwyr o Fecsico drwy ddamwain.

Mae Gweinidog Tramor Mecsico, Claudia Ruiz Massieu, wedi cyhoeddi fod o leiaf dau o’r rheiny a gafodd eu lladd yn bobol o Fecsico oedd yn ymweld â’r Aifft.

Nid yw enwau’r rhai eraill wedi’u cyhoeddi eto, ac mae Gweinidog Tramor Mecsico yn galw am “ymchwiliad manwl i’r hyn ddigwyddodd”.

Targedu 4 cerbyd

Fe wnaeth heddlu a lluoedd arfog yr Aifft dargedu pedwar cerbyd yn llawn ymwelwyr ar ddamwain ddoe.

Honnir bod yr ymwelwyr wedi mynd i mewn i ardal beryglus yng ngogledd Sinai, ac nad oedd gan y cwmni teithio oedd yn eu cludo yr hawl i fod yno.

“Doedd ganddyn nhw ddim trwyddedau i fod yno, ac ni wnaethon nhw roi gwybod i’r awdurdodau”, meddai Rasha Azazi, llefarydd ar ran Gweinidog Twristiaeth yr Aifft.

Credir bod eithafwyr Islamaidd a gwrthryfelwyr yn ymarfer yn yr ardal hon, a bod heddlu’r Aifft wedi bod yn ceisio delio â brawychiaeth yn yr ardal ers blynyddoedd.

Mae’r dioddefwyr yn cael eu trin yn ysbyty Dar-el-Fouad yn un o faestrefi Cairo.