Mae arweinydd newydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn wedi hen ddechrau cyhoeddi enwau’r rhai fydd yn ei gabinet cysgodol.

Er bod Jeremy Corbyn wedi datgan eisoes y byddai ei gabinet cysgodol yn gyfuniad cyfartal o ddynion a menywod, dynion sydd wedi’u penodi i’r prif swyddi – y canghellor cysgodol, materion cartref, materion tramor a chyfiawnder.

Uchafbwyntiau eraill

Mae Yvette Cooper wedi derbyn cyfrifoldeb am arwain gweithgor ar faterion yn ymwneud â ffoaduriaid.

Mae Rosie Winterton yn parhau’n Brif Chwip cysgodol.

Mae rhai aelodau seneddol y blaid eisoes wedi dweud na fyddan nhw’n rhan o’r cabinet cysgodol newydd, sef Mary Creagh, Liz Kendall, Tristram Hunt, Rachel Reeves, Chris Leslie, Emma Reynolds a Jamie Reed.

Yr unig Gymro yn y cabinet cysgodol, fwy na thebyg, fydd Chris Bryant, fydd yn arweinydd cysgodol y Tŷ.

Mae adroddiadau mai Lucy Powell fydd yn gyfrifol am Addysg ac mai Michael Dugher fydd yn gyfrifol am y Cyfryngau, Diwylliant a Chwaraeon.

Dydy’r swyddi Amddiffyn, Gwaith a Phensiynau, Ynni, yr Amgylchedd, Cymunedau nac Ysgrifennydd Cymru ddim wedi cael eu cyhoeddi eto.

  • Canghellor – John McDonnell
  • Busnes – Angela Eagle (hefyd yn Brif Ysgrifennydd Gwladol)
  • Y Trysorlys – Seema Malhotra
  • Materion Cartref – Andy Burnham
  • Materion Tramor – Hilary Benn
  • Iechyd – Heidi Alexander
  • Cyfiawnder – yr Arglwydd Falconer
  • Datblygiad Rhyngwladol – Diane Abbott
  • Yr Alban – Ian Murray
  • Gogledd Iwerddon – Vernon Coaker