Does dim gobaith gan wrthwynebwyr Jeremy Corbyn o fewn ei blaid o gipio grym oddi arno, yn ôl dirprwy arweinydd newydd Llafur, Tom Watson.

Ond mae Watson yn cyfaddef fod gwahaniaeth barn sylfaenol rhyngddo fe a Corbyn ar nifer o faterion allweddol.

Dywedodd Watson fod Corbyn yn adeiladu cabinet cysgodol “eang” ac y dylai aelodau’r Blaid Lafur barchu’r “mandad anferth” sydd ganddo yn sgil ei fuddugoliaeth ysgubol.

Enillodd Corbyn 59.5% o’r bleidlais yn rownd gynta’r ras am yr arweinyddiaeth.

Ond mae Watson wedi rhybuddio y bydd angen cyfaddawdu ar nifer o faterion, gan gynnwys gwrthwynebiad chwyrn Corbyn i adnewyddu Trident a’i agwedd at Nato.

Mae nifer o aelodau seneddol blaenllaw eisoes wedi dweud na fyddan nhw’n ymuno â’r cabinet cysgodol newydd, sy’n tanlinellu’r talcen caled sydd gan Corbyn wrth geisio uno’i blaid.

Prif flaenoriaethau Corbyn, yn ôl pob tebyg, fydd gyrru ei agenda gwrth-ryfel a gwrth-lymder.

Mae nifer o aelodau blaenllaw’r blaid, gan gynnwys Peter Mandelson a David Blunkett, wedi rhybuddio y bydd angen niwtraleiddio dulliau radical Corbyn o arwain y blaid drwy benodi aelodau mwy cymhedrol i’w gabinet cysgodol.

Dywedodd Tom Watson wrth raglen Andrew Marr y BBC: “Mae e am adeiladu plaid eang, mae e am gael mainc flaen sydd yn cynrychioli’r holl ddoniau a’r holl safbwyntiau.

“Felly rwy’n dweud wrth gydweithwyr: gwyliwch y gofod, parchwch y mandad a gafodd ei roi iddo gan ein haelodau, ceisiwch uno a gadewch i ni gael rhaglen gyffrous ar gyfer 2020.”

Wrth ymateb i’r posibilrwydd o wrthryfel o fewn y blaid, dywedodd Watson: “Does dim gobaith y bydd hynny’n digwydd; ni fydd aelodau’r Blaid Lafur yn derbyn hynny.”