Gallai Zoe Ball gael ei datgelu fel un o gyflwynwyr newydd y rhaglen deledu boblogaidd ‘Top Gear’, yn ôl adroddiadau.

Mae lle i gredu y bydd y gyflwynwraig radio’n ymuno â Chris Evans wedi iddi greu argraff ar gynhyrchwyr y BBC, meddai’r Sunday Mirror.

Mae Evans eisoes wedi cael cytundeb tair blynedd i arwain y tîm newydd.

Cafodd y cyn-gyflwynydd Jeremy Clarkson ei ddiswyddo ar ôl taro’r cynhyrchydd Oisin Tymon mewn ffrae tros fwyd ym mis Mawrth.

Yn sgil ei ddiswyddiad, ymddiswyddodd ei gyd-gyflwynwyr Richard Hammond a James May.

Bydd y triawd yn cyflwyno rhaglen foduro newydd ar Amazon Prime.