Mae ail bôl piniwn o fewn wythnos wedi dangos bod mwyafrif o bobl yr Alban o blaid annibyniaeth, a hynny lai na blwyddyn ers i’r refferendwm gael ei chynnal.

Ym mis Medi’r llynedd fe bleidleisiodd pobl yr Alban o 55%-45% o blaid aros yn rhan o’r Deyrnas Unedig, er gwaethaf ymchwydd hwyr i’r rheiny oedd o blaid annibyniaeth.

Ond nawr mae’r pôl diweddaraf wedi awgrymu y byddai Albanwyr yn pleidleisio i wahanu oddi wrth weddill Prydain petai ail refferendwm yn cael ei chynnal nawr.

Yn ôl arolwg TNS roedd 47% o blaid annibyniaeth, gyda 42% yn dweud y byddan nhw’n pleidleisio ‘Na’ mewn refferendwm ac 11% ddim yn siŵr. Ar ôl diystyru’r rheiny oedd ddim yn siŵr, roedd gan yr ochr ‘Ie’ fantais o 53-47.

Ail refferendwm?

Dangosodd yr arolwg bod rhaniadau amlwg yn bodoli rhwng grwpiau oed o hyd wrth drafod annibyniaeth, gyda 59% o Albanwyr ifanc rhwng 18-34 yn cefnogi annibyniaeth, ond bron yr un canran o’r rheiny dros 55 oed o blaid aros yn y DU.

Roedd ymchwil TNS hefyd yn awgrymu bod cefnogaeth yr SNP cyn etholiadau Senedd yr Alban wedi llithro ychydig o 62% i 58%, ond roedden nhw’n dal ymhell o flaen Llafur oedd ar 23%.

Awgrymodd pôl arall gan Ipsos Mori ar annibyniaeth wythnos yn ôl fod y canran fyddai’n bwriadu pleidleisio ‘Ie’ hefyd wedi codi i 53%.

Yn ôl Tom Costley, pennaeth TNS Scotland, mae hyn yn debygol o godi cwestiynau ymhlith yr SNP ynglŷn ag a ddylai hi ymrwymo i geisio cynnal ail refferendwm ar annibyniaeth os yw’n ennill etholiadau’r Alban y flwyddyn nesaf.