Mwg yn tasgu o'r tân yn y ddau dŷ yn Aberogwr Llun: Ray Williams
Mae dwsinau o ddiffoddwyr tân wedi cael eu galw i dân sydd wedi difrodi dau dŷ  ym mhentref Aberogwr, ger Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae mwg i’w weld yn tasgu o’r ddau dŷ wrth ymyl y maes parcio ger y traeth.

Nid oes adroddiadau bod unrhyw un wedi cael eu hanafu.

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru bod y tân  wedi dechrau mewn tanc olew yng ngardd un o’r tai, a bod y tân wedi lledu i’r tŷ drws nesaf.

Mae cwmni trydan Western Power yn dweud nad oes cyflenwad trydan yn 18 o dai yn y pentref ar ôl i beirianwyr dorri’r cyflenwad i’r ddau dŷ oedd ar dân.

Nid yw’n glir ar hyn o bryd pryd fydd y cyflenwad yn cael ei adfer.