'Jihadi John' fel mae'n ymddangos yn fideos IS
Fe allai rhagor o gyrchoedd awyr gael eu trefnu yn Syria i fynd i’r afael â’r Wladwriaeth Islamaidd (IS), gydag adroddiadau’n awgrymu bod ‘rhestr lladd’ wedi cael ei llunio.

Ar frig y rhestr honedig mae ‘Jihadi John’, sydd wedi ymddangos mewn nifer o fideos o wystlon yn cael eu llofruddio.

Mae’r Ysgrifennydd Amddiffyn Michael Fallon yn mynnu na fyddai Llywodraeth Prydain yn oedi cyn gweithredu eto, er gwaetha’r feirniadaeth am y cyrch a laddodd Reyaad Khan o Gaerdydd a Ruhul Amin ar Awst 21.

Cafodd y penderfyniad i ddefnyddio taflegrau di-beilot ei wneud rhai misoedd yn ôl, meddai Downing Street.

Cafodd Llywodraeth Prydain ganiatâd gan y Cyngor Diogelwch Cenedlaethol i fwrw ymlaen gyda’r ymosodiadau ar sail y ffaith eu bod nhw’n hunan-amddiffynnol.

Does dim cadarnhad eto a gafodd ‘rhestr lladd’ ei thrafod yn y cyfarfod hwnnw rhwng Llywodraeth Prydain a’r Cyngor Diogelwch Cenedlaethol.

Dywedodd Michael Fallon wrth raglen Today BBC Radio 4: “Mae brawychwyr eraill ynghlwm wrth gynllwyniau eraill a allai ddwyn ffrwyth yn ystod yr wythnosau a’r misoedd i ddod a fydden ni ddim yn oedi cyn gweithredu mewn modd tebyg eto.”

Ychwanegodd fod mwy na thri o frawychwyr yn cynllwynio ymosodiadau yn erbyn gwledydd Prydain, ac y byddai gweithredu milwrol ehangach yn gofyn am gynnal pleidlais yn San Steffan.

Collodd Llywodraeth Prydain bleidlais ynghylch cynnal cyrchoedd awyr tros Syria yn 2013.

Gofid tad

Ddoe, roedd tad i ddau ddyn o Gaerdydd, y credir sydd wedi ymuno a’r grŵp brawychol IS, wedi dweud ei fod yn gofidio y gallai ei feibion fod ar restr Llywodraeth Prydain o unigolion i’w targedu.

Roedd  Aseel Muthana, 17,wedi ymuno a’i frawd, Naseer, 21 yn Syria y llynedd.

Roedd y ddau frawd yn gyfeillgar gyda’r jihadydd o Gaerdydd Reyaad Khan a gafodd ei ladd mewn ymosodiad gan awyren ddibeilot yr Awyrlu fis diwethaf.

Mae eu tad Ahmed Muthana, 57, wedi dweud ei fod yn credu mai dim ond mater o amser fydd hi cyn bod ei feibion yn cael eu lladd.