David Cameron yn y Senedd
Mae’r Prif Weinidog, David Cameron, wedi cyhoeddi y bydd Prydain yn derbyn hyd at 20,000 o ffoaduriaid o wersylloedd ger ffiniau Syria yn ystod y pedair blynedd a hanner nesaf.
Fe wnaeth y Prif Weinidog y cyhoeddiad yn y Senedd prynhawn ma.
Dywedodd wrth Dy’r Cyffredin y byddai’r DU yn wynebu ei chyfrifoldeb moesol tuag at y bobl sydd wedi cael eu gorfodi i ffoi o’u cartrefi gan yr Arlywydd Bashar Assad a’r grŵp brawychol, y Wladwriaeth Islamaidd (IS).
Fe fydd Prydain yn ailgartrefu ffoaduriaid o wersylloedd yn y rhanbarth yn unig, meddai, ac nid y miloedd sydd eisoes wedi croesi Mor y Canoldir i Ewrop.
Dywedodd wrth ASau: “Rydym ni’n cynnig bod Prydain yn ailgartrefu hyd at 20,000 o ffoaduriaid o Syria am weddill cyfnod y Senedd hon.”
Drwy wneud hynny, meddai, fe fyddai’r DU “yn parhau i ddangos i’r byd bod hon yn wlad sy’n barod i helpu’r rhai mewn angen.”
Dadl frys
Fe fydd Aelodau Seneddol yn cymryd rhan mewn dadl frys yfory ynglŷn ag argyfwng y ffoaduriaid yn dilyn cais gan un o’r ymgeiswyr am arweinyddiaeth Llafur, Yvette Cooper.
Dywedodd nad yw cynlluniau David Cameron yn mynd yn ddigon pell.
‘Llwybr mwy diogel’
Deellir bod y Comisiwn Ewropeaidd yn paratoi i ofyn i aelodau’r Undeb Ewropeaidd i gymryd rhan mewn cynllun gorfodol i ailgartrefu 160,000 o ffoaduriaid sydd eisoes wedi cyrraedd y cyfandir.
Mae Arlywydd Ffrainc Francois Hollande wedi dweud ei fod yn barod i dderbyn 24,000 o bobl.
Ond dywedodd David Cameron wrth ASau, gan nad yw Prydain yn rhan o drefniadau ffiniau agored Schengen, fel y rhan fwyaf o wledydd yr UE, ei bod yn gallu “penderfynu ar ei llwybr ei hun.”
“Fe fyddwn yn parhau gyda’n hymateb o gymryd ffoaduriaid o wersylloedd yn Nhwrci, Gwlad yr Iorddonen a Libanus,” meddai. “Fe fydd hyn yn darparu llwybr mwy diogel ac uniongyrchol i ffoaduriaid i’r DU, yn hytrach na’u bod yn cymryd o risg o wneud y daith beryglus i Ewrop, sydd wedi arwain at golli cymaint o fywydau.”
Dywedodd y byddai’r plant sy’n fwyaf agored i niwed – gan gynnwys plant amddifad – yn cael blaenoriaeth.
Roedd pwysau cynyddol ar David Cameron i dderbyn rhagor o bobl o Syria ar ôl i luniau gael eu cyhoeddi o gorff bachgen tair oed, Aylan Kurdi, a oedd wedi boddi, ynghyd a’i fam a’i frawd, wrth groesi o Dwrci i Wlad Groeg mewn cwch.
Fe fydd y gost o roi cymorth i’r ffoaduriaid o Syria yn dod o gronfa cymorth ryngwladol y Llywodraeth, meddai.
Oxfam yn croesawu
Mae prif weithredwr Oxfam, Mark Goldring, wedi croesawu cyhoeddiad y Prif Weinidog ond wedi ei annog i gyflwyno amserlen “uchelgeisiol” ar gyfer cwblhau’r rhaglen ailgartrefu mor fuan â phosib.
Ychwanegodd y byddai’n rhaid i’r Llywodraeth barhau i adolygu faint o ffoaduriaid y byddai’r DU yn eu hailgartrefu gan nad oes unrhyw arwyddion bod y rhyfel yn Syria am ddod i ben yn fuan.
Yn y cyfamser mae Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones wedi cyhoeddi y bydd uwch-gynhadledd yn cael ei chynnal i drafod y cynllun ffoaduriaid.