Christopher Boffey
Mae dyn o Wolverhampton wedi cael ei wahardd rhag mynd i gemau pêl-droed am dair blynedd yn dilyn ffrwgwd mewn tafarn yng Nghaerdydd.

Plediodd Christopher Boffey, 19, yn euog i gyhuddiad o fynd yn groes i’r drefn gyhoeddus a thri chyhuddiad o ymosod cyn gêm rhwng Caerdydd a Wolverhampton.

Cafodd Boffey orchymyn i dalu costau gwerth £500, iawndal gwerth £350 ac fe fydd yn rhaid iddo gwblhau 200 awr o waith di-dâl yn ystod y 12 mis nesaf.

Mae e wedi’i wahardd rhag mynd i gemau yn y DU ac fe fydd rhaid iddo ildio’i basbort cyn i Loegr chwarae dramor.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu’r De nad yw’r fath ymddygiad “yn dderbyniol.”

Roedd Boffey yn rhan o griw o gefnogwyr oedd yn canu caneuon gwrth-Gymreig yn nhafarn y Prince of Wales ar Chwefror 28.

Pan ofynnodd staff iddo adael, daeth Boffey yn ymosodol ac fe regodd at yr heddlu.

Ar ôl cael ei arestio, fe frathodd a chiciodd Boffey swyddogion yr heddlu.