Mae cyn-seren y gyfres deledu ‘Dragons’ Den’, Doug Richard wedi’i gyhuddo o droseddau rhyw yn erbyn merch 13 oed.

Mae Richard yn wynebu tri chyhuddiad o gael rhyw â phlentyn ac un o orfodi plentyn i gymryd rhan mewn gweithgaredd rywiol.

Honnir i’r troseddau fod wedi digwydd ym mis Ionawr.

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Erlyn y Goron fod digon o dystiolaeth i ddwyn achos yn ei erbyn.

Cafodd Doug Richard, 57, ei arestio ym mis Ionawr.

Fe fydd yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Dinas Llundain ar Hydref 5.

Roedd y biliwnydd o’r Unol Daleithiau wedi ymddangos yn y ddwy gyfres gyntaf, ac fe fu hefyd yn ymgynghorydd i Brif Weinidog Prydain, David Cameron.