Stormont
Fe fydd Cynulliad Gogledd Iwerddon yn cyfarfod heddiw am y tro cyntaf ers i ffrae tros fodolaeth yr IRA fygwth ei ddyfodol.

Roedd Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd wedi ceisio gohirio’r Cynulliad am bedair wythnos yn dilyn cyhuddiad gan Heddlu Gogledd Iwerddon fod aelodau’r IRA wedi llofruddio dyn yn nwyrain Belfast.

Mae disgwyl i lywodraethau Iwerddon a Phrydain drafod y mater yn ddiweddarach yr wythnos hon.

Fe fydd gwleidyddion yn Stormont yn trafod cynnig gan Sinn Fein yn beirniadu llofruddiaethau Jock Davison a Kevin McGuigan, ac mae’r blaid yn galw am dystion.

Mae’r heddlu’n mynnu bod yr IRA yn bodoli o hyd, ac mae Llywodraeth Prydain wedi cytuno i ddeddfu ar ddiwygiadau lles yng Ngogledd Iwerddon pe na bai pleidiau Stormont yn gallu dod i gytundeb.

Yn bresennol yn y trafodaethau yn Stormont yr wythnos hon fydd Theresa Villiers ar ran Llywodraeth Prydain a Charlie Flanagan ar ran Llywodraeth Iwerddon yn Nulyn.

Mae Llywodraeth Iwerddon a’r Unoliaethwyr Democrataidd yn cefnogi camau newydd i fonitro’r cadoediad.

Mae’r heddlu wedi cyhuddo aelodau o’r IRA o lofruddio Kevin McGuigan ond yn dweud nad oedd y weithred wedi’i hawdurdodi’n swyddogol gan y grwp parafilwrol.