Ffoaduriaid o Syria
Mae disgwyl i David Cameron amlinellu cynlluniau’r Llywodraeth i ail-gartrefu miloedd o ffoaduriaid o Syria.

Mae swyddogion wedi bod yn gweithio ar y cynllun drwy’r penwythnos ar ôl i’r Prif Weinidog wneud tro pedol ynglŷn â chaniatáu i ffoaduriaid gael lloches rhag y rhyfel yn Syria.

Bydd y Prif Weinidog yn cyhoeddi’r manylion yn llawn mewn datganiad yn y Senedd. Fe fu pwysau cynyddol ar Cameron i weithredu ar ôl i luniau o fachgen tair oed, Aylan Kurdi, a oedd wedi boddi ger arfordir Twrci, gael eu cyhoeddi.

Cyn hynny, roedd David Cameron wedi dadlau y byddai caniatáu i’r ffoaduriaid ddod i’r DU yn annog rhagor o bobl i gymryd y risg o groesi Mor y Canoldir er mwyn dod i Ewrop. Mae miloedd o ffoaduriaid eisoes wedi marw wrth geisio gwneud hynny.

O dan y cynllun, fe fydd y DU yn rhoi lloches i ffoaduriaid sydd mewn gwersylloedd mewn gwledydd ar y ffin a Syria, yn hytrach na’r rhai sydd eisoes wedi cyrraedd Ewrop.

Mae’r cynllun, a gyhoeddwyd ddydd Gwener yn ystod ymweliad a Phortiwgal a Sbaen, yn ehangu’n sylweddol ar raglen bresennol y Llywodraeth i roi lloches i’r ffoaduriaid mwyaf bregus sydd wedi gweld 216 o ffoaduriaid o Syria yn cael eu hail-gartrefu ym Mhrydain hyd yn hyn.

Beirniadaeth

Ond mae rhai wedi beirniadu’r cynlluniau gan ddweud na fydd yn gwneud unrhyw beth i helpu’r degau o filoedd o bobl sydd eisoes wedi teithio i Ewrop ac sy’n anelu at wledydd mwy cyfoethog, fel yr Almaen, er mwyn gwneud cais am loches.

Ond mae Cameron wedi mynnu na fydd Prydain yn ymuno a chynllun arfaethedig yr Undeb Ewropeaidd i ddosbarthu tua 160,000 o bobl ymhlith aelodau’r UE – er gwaetha’r ffaith y gall niweidio ei berthynas gyda chynghreiriaid fel Canghellor yr Almaen, Angela Merkel.

Mae gweinidogion wedi gwrthod datgelu dros y penwythnos faint o bobl fydd yn cael mynediad i’r DU, ond mae ’na ddyfalu y bydd hyd at 10,000 yn cael eu hail-gartrefu gan fod y  Llywodraeth yn awyddus i geisio ymddangos ei bod mor hael â phosib.

Wrth geisio lleddfu pryderon ASau Ceidwadol am y costau ychwanegol, dywed y Canghellor George Osborne y bydd yr arian yn dod o’r Gronfa Cymorth Ryngwladol.