Yr un tîm a drechodd Cyprus nos Iau fydd yn herio Israel heno (llun: FAW)
Di-sgôr yw hi ar hanner amser yn y gêm fawr rhwng Cymru ac Israel.

Ychydig iawn o gyfleoedd i sgorio sydd wedi bod, ac mae wedi bod yn hanner digon siomedig ar un ystyr.

Ar y llaw arall, y farn yw y gall un gôl gan Gymru sicrhau’r fuddugoliaeth yn yr ail hanner, gan nad ydi Israel wedi dangos unrhyw fygythiad i sgorio hyd yma.

Roedd rheolwr tîm Cymru, Chris Coleman, wedi cadarnhau mai’r un tîm a drechodd Cyprus nos Iau fydd yn herio’r Israeliaid yng Nghaerdydd heno.

Y tîm hwnnw yw: Hennessey; Gunter, A Williams, Davies; Richards; King; Edwards; Taylor; Ramsey; Bale; Robson-Kanu.

Yr eilyddion yw: Ward, O Williams, Chester, MacDonald, Church, Vokes, Vaughan, Cotterill, Collins, Lawrence, J Williams, Henley.

Gyda Chymru ar frig Grwp B ar ôl i bob tîm chwarae saith gêm yr un, fe fydd buddugoliaeth yn sicrhau lle i Gymru yn rowndiau terfynol Cwpan Ewrop yn Ffrainc.

Gyda dwy gêm arall i’w chwarae y mis nesaf, gan gynnwys gêm gartref yn erbyn Andorra, fe fyddai Cymru’n dal i fod mewn sefyllfa gref i fynd trwodd petai’r sgôr yn gyfartal heno. Hyd yn oed petai’n colli, ni fyddai popeth ar ben o angenrheidrwydd, ond fe fyddai Cymru wedyn yn hwylio’n agos iawn at y gwynt.

Fe all y tri chwarter awr nesaf am fod yn dyngedfennol felly …


`Y cyffro yn stadiwm Dinas Caerdydd heno