Mae dyn 50 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio dyn a dynes mewn catref gofal preswyl yn Llundain.

Cafodd yr heddlu eu galw i’r cartref yn Ilford, dwyrain Llundain, am 10pm neithiwr ar ôl adroddiadau bod dau wedi cael eu trywanu yno.

Roedd y ddau, dyn yn ei 80au a dynes yn ei 50au, wedi dioddef anafiadau difrifol, ac fe fu’r ddau farw o fewn awr i’r heddlu a’r gwasanaeth ambiwlans gyrraedd.

Dywed yr heddlu bod tri yn adnabod ei gilydd ond nad oedden nhw’n perthyn. Nid oedd yr un ohonyn nhw’n aelod o staff y cartref chwaith.

Mae ymchwiliadau’r heddlu’n parhau.