Mae dyn a dynes wedi cael eu harestio ar amheuaeth o baratoi gweithredoedd brawychol yn ymwneud a Syria.
Cafodd y ddau eu harestio mewn eiddo yn Sparkbrook, Birmingham tua 7.30yb heddiw, meddai Heddlu’r West Midlands.
Cafodd y dyn 38 oed a’r ddynes 31 oed eu harestio ar amheuaeth o baratoi gweithredoedd yn ymwneud a brawychiaeth.
Dywed yr heddlu bod y cyrch wedi ei drefnu o flaen llaw ac nad oedd unrhyw fygythiad i’r cyhoedd.