Mae ffordd A27 wedi ail-agor yn rhannol yn Swydd Sussex ar ôl i 11 o bobol gael eu lladd pan darodd awyren Hawker Hunter ffordd brysur yn ystod sioe awyr yn Shoreham ddydd Sadwrn diwethaf.

Mae dwy lôn i’r dwyrain ac un i’r gorllewin wedi’u hail-agor, yn ôl yr heddlu.

Mae un lôn arall i’r gorllewin ynghau o hyd tra bod yr ymchwiliad i’r digwyddiad yn parhau.

Mae cyfyngiad ar y ffordd o 40 milltir yr awr.

Roedd miloedd o bobol wedi mynychu digwyddiad coffa ddoe, ac fe gafodd munud o dawelwch ei gynnal am 1.20yp, yr union amser y digwyddodd y ddamwain wythnos yn ôl.

Cafodd balwnau eu rhyddhau yn ystod y digwyddiad yn Littlehampton, ac fe ymgasglodd tyrfaoedd nos Sadwrn gyda chanhwyllau i greu “pont goleuni” ar draws bont fferi Adur.

Mae’r holl feirw wedi cael eu hadnabod erbyn hyn, meddai’r crwner.

Fe fydd y cwest i’w marwolaethau’n agor ac yn cael ei ohirio yn Horsham ddydd Mercher, pan fydd enwau’r 11 yn cael eu cyhoeddi’n swyddogol.

Dywed yr heddlu nad ydyn nhw’n credu bellach fod rhagor o bobol wedi’u lladd.

Fe fu’n rhaid defnyddio dulliau arbenigol, gan gynnwys profion DNA, er mwyn adnabod y rhai fu farw.

Mae gweddillion yr awyren wedi cael eu hanfon i Farnborough yn Swydd Hampshire ar gyfer ymchwiliad, ac mae disgwyl i adroddiad gael ei gyflwyno’r wythnos hon.

Mae’r peilot, Andrew Hill wedi cael ei symud i ysbyty arbenigol am driniaeth.