Y fam a'r pedwar o blant ym maes awyr London City ddydd Mawrth (llun: Heddlu Llundain)
Mae’r heddlu’n ofni bod mam a phedwar o blant sydd wedi bod ar goll ers dydd Mawrth wedi teithio i Syria.

Cafodd y fam, Zahera Tariq, 33 oed, a’i phlant, sydd rhwng 4 a 12 oed, eu gweld ddiwethaf yn eu cartref yn Walthamstow, dwyrain Llundain.

Y gred yw eu bod nhw bellach ar y ffordd i Syria ar ôl hedfan o Lundain i Amsterdam ddydd Mawrth.

Dywedodd y Comander Richard Walton o Heddlu Llundain fod teulu’r fam yn hynod o bryderus.

“Rydym yn gwneud popeth a allwn i gael hyd iddyn nhw a sicrhau eu bod yn ddiogel a iach,” meddai.

“Er bod gennym bryderon y gallai Zahera fod yn bwriadu teithio i Syria, nid oes gwybodaeth ar hyn o bryd i awgrymu ei bod hi eisoes wedi cyrraedd yno.

“Mae ei theulu’n bryderus iawn, a dw i’n pwyso ar unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â ni cyn gynted ag sy’n bosibl.”

Mae’r heddlu wedi cyhoeddi llun o’r teulu ym maes awyr London City dydd Mawrth cyn iddyn nhw ddal yr awyren i Amsterdam.

Dros y misoedd diwethaf, mae sawl achos wedi dod i’r amlwg o ferched a phlant yn hedfan i rannau o Syria sydd o dan reolaeth Islamic State.