Syr John Chilcot
Mae Syr John Chilcot, cadeirydd yr ymchwiliad i ryfel Irac, wedi rhybuddio ei bod hi’n “hollbwysig fod yr adroddiad yn un teg” mewn ymateb i feirniadaeth am yr oedi cyn ei gyhoeddi.

Ar hyn o bryd mae cyhoeddiad adroddiad yr ymchwiliad, gafodd ei ddechrau yn 2009, wedi cael ei ohirio am resymau cyfreithiol, gyda’r posibilrwydd na fydd yn cael ei gyhoeddi nes 2016.

Dros yr wythnosau diwethaf mae’r ymchwiliad wedi cael ei feirniadu gan deuluoedd y rheiny gafodd eu lladd yn rhyfel Irac, sydd wedi bygwth camau cyfreithiol, yn ogystal â’r Prif Weinidog David Cameron.

 ‘Teg i bawb’

Mynnodd Syr John Chilcot ei fod yn deall gofidion y teuluoedd hynny, ond bod angen dilyn y broses at ei diwedd.

“Hoffwn yn gyntaf bwysleisio bod fy nghydweithwyr a minnau yn deall gofidion teuluoedd y rheiny gollodd eu bywydau yn y gwrthdaro,” meddai Syr John Chilcot mewn datganiad.

“Rydyn ni’n cymryd y cyfrifoldeb gawson ni fel ymchwiliad annibynnol yn hollol o ddifrif, ac yn deall yr angen i’r Llywodraeth, Senedd, a’r cyhoedd weld ein hadroddiad mor fuan â phosib.

“Mae’n hanfodol fod yr adroddiad yn un teg i bawb gymrodd ran yn y gwrthdaro ac i’r rheiny gymrodd y cyfrifoldeb o wneud penderfyniadau.”