Stormont
Mae Unoliaethwyr Ulster (UUP) yn ystyried rhoi’r gorau i rannu grym pwerau gweithredol yng Ngogledd Iwerddon, a ffurfio gwrthblaid eu hunain.

Dyna a ddywedodd arweinydd y blaid, Mike Nesbitt, yn dilyn  honiadau y gallai’r IRA fod yn weithredol o hyd.

Bydd swyddogion gweithredol yr UUP yn cyfarfod ddydd Sadwrn i drafod penderfyniad eu harweinydd.

Mae  penderfyniad yr UUP wedi rhoi pwysau ar blaid fwyaf Gogledd Iwerddon, yr Unoliaethwyr Democrataidd, i wneud yr un peth allai gael effaith ar ddyfodol  y llywodraeth.

Llofruddiaeth ddiweddar Belfast

 

Daw’r penderfyniad arfaethedig i dynnu’n ôl yn dilyn asesiad gan wasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon (PSNI) fod elfennau o’r IRA yn dal i weithredu.

Mae honiadau hefyd y gallai rhai o’i haelodau fod wedi bod ynghlwm â llofruddiaeth Kevin McGuigan ym Melfast bythefnos yn ôl.

“Mae’r penderfyniad i dynnu’n ôl, ffurfio gwrthblaid a chynnig dewis arall i’n pobol yn un o ddemocratiaeth briodol”, esboniodd Mike Nesbitt.

“Mae angen i’r IRA fynd i ffwrdd a rhoi’r gorau i frawychu eu cymunedau eu hunain,” ychwanegodd.

‘IRA yn dal i fodoli’

Mae Prif Gwnstabl gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon, George Hamilton, wedi dweud fod yr IRA yn dal i fodoli ond nad ydynt ynghlwm â brawychiaeth.

Fe ddywedodd Gerry Adams, arweinydd y blaid Sinn Fein, fod yr IRA wedi “mynd i ffwrdd”.

Ond, roedd ei araith yn “brin o hygrededd” yn ôl Mike Nesbitt, ac yn “chwalu’n hymddiriedaeth”.

Mae’r Gweinidog dros Gyfiawnder yn Iwerddon, Frances Fitzgerald, wedi galw am “asesiad newydd” o weithgareddau’r IRA gan yr heddlu.

Effaith yr UUP yn gadael

Fe wnaeth Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon, Theresa Villiers ymateb i gyhoeddiad yr UUP drwy ddweud eu bod wedi “gwneud eu penderfyniad eu hunain”.

Ychwanegodd fod y Llywodraeth “yn dal i ymrwymo’n llwyr i’r sefydliadau gwleidyddol datganoledig, a thuag at weithredu Cytundeb Stormont”.

Mae Dirprwy Brif Weinidog Sinn Fein, Martin McGuinness, wedi cyhuddo’r UUP o “chwarae gemau gwleidyddol”.

Dywedodd Theresa Villiers y bydd trafodaethau gyda’r pleidiau gwleidyddol am effaith llofruddiaeth Kevin McGuigan yn parhau.