Craen yn symud gweddillion yr awyren o safle'r ddamwain ddoe
Mae hi’n debygol mai 11 o bobl gafodd eu lladd  yn dilyn damwain sioe awyr Shoreham, meddai’r heddlu.

Fe wnaeth Heddlu Sussex y datganiad wedi  i weddillion yr awyren gael ei symud gan graen o’r safle ddoe.

Nid ydyn nhw wedi dod o hyd i unrhyw dystiolaeth bellach bod rhagor o bobl wedi cael eu lladd. Roedd yr heddlu’n ofni y gallai hyd at 20 o bobl fod wedi marw yn y ddamwain.

Bydd yr awyren yn cael ei gludo i Farnborough, Hampshire lle bydd yr Adran Ymchwiliadau i Ddamweiniau Awyr (AAIB) yn archwilio’r gweddillion.

Mae crwner Gorllewin Sussex, Penny Schofield , wedi rhybuddio y gallai’r broses o adnabod y rhai fu farw fod yn araf ac y gallai gymryd “rhai wythnosau” cyn bod yr ymchwiliadau wedi’u cwblhau.

Mae enwau pedwar o ddynion oedd ymhlith y rhai a laddwyd wedi cael eu cyhoeddi ac mae dau berson arall ar goll, yn dilyn y trychineb brynhawn dydd Sadwrn.

Yn eu plith roedd pêl-droedwyr Worthing United, Matthew Grimstone a Jacob Schilt, ill dau yn 23 oed, a oedd ar eu ffordd i chwarae gêm pan gawsant eu lladd.

Roedd yr hyfforddwr personol, Matt Jones, 24 oed hefyd ymhlith y rhai fu farw yn ogystal â’r chauffeur Maurice Abrahams, 76, o Brighton a oedd ar ei ffordd i gludo priodferch i’w phriodas.

Mae’r beiciwr modur, Mark Trussler, a Daniele Polito, tad o Worthing, ill dau ar goll ac mae’n debyg eu bod nhw wedi cael eu lladd yn y trychineb.

Mae’r peilot Andrew Hill yn parhau mewn cyflwr difrifol iawn ac wedi cael ei roi mewn coma gan feddygon.

Ddoe, roedd yr Awdurdod Hedfan Sifil (CAA) wedi cyhoeddi y bydd yn cyflwyno cyfyngiadau llym ar sioeau awyr dros dir mewn hen awyrennau, yn sgil y ddamwain.