Iain Duncan Smith
Mae Iain Duncan Smith wedi amddiffyn ei gynlluniau i annog pobl sâl neu’r anabl i weithio, yn dilyn beirniadaeth ei fod yn cosbi’r rhai mwyaf bregus mewn cymdeithas.

Mynnodd yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau y gallai dychwelyd i’r gwaith helpu  pobl i wella.

Gwadodd Iain Duncan Smith fod ganddo darged o gymryd miliwn o bobl oddi ar fudd-daliadau gan ddadlau ei bod yn synhwyrol i asesu a allai rhai unigolion ddychwelyd i’r gwaith yn rhan amser.

Meddai: “Mae’r system bresennol o fudd-dal salwch yn wallus. Wrth ei wraidd mae ganddo brawf sy’n gofyn cwestiwn syml – ydych chi’n rhy sâl i weithio, neu allwch chi weithio’n llawn amser?

“Fy ateb i yw, dyna’r cwestiwn anghywir. Yn aml iawn mae pobl am weithio os ydynt ar y budd-dal salwch, ond ni allant weithio oherwydd byddent yn colli eu budd-daliadau.

“Felly rydym yn awyddus i edrych ar broses sy’n caniatáu i ni allu asesu yn iawn, gofyn beth all yr unigolyn ei wneud yn hytrach na ddim ei wneud.”

‘Cynyddu gofid’

Ond cafodd cynlluniau Iain Duncan Smith eu beirniadu’n hallt gan arweinwyr undebau.

Meddai Mark Serwotka, ysgrifennydd cyffredinol Undeb y PCS: “Mae Iain Duncan Smith  yn awgrymu y gall gweithio helpu pobl gyda phroblemau iechyd meddwl ac, wrth gwrs, rydym yn cytuno y gall cefnogi pobl i weithio fod yn beth da. Ond bydd gorfodi pobl i weithio oherwydd eu bod yn ofni colli eu budd-daliadau yn cynyddu eu gofid ac, yn y pendraw, yn gwneud  cyflwr yr unigolyn yn waeth. “