Safle'r ddamwain yn Shoreham
Mae teulu’r peilot fu mewn damwain awyren yn sioe awyr Shoreham dros y penwythnos wedi mynegi eu cydymdeimlad dwysaf gyda theuluoedd y rhai gafodd eu lladd yn y drasiedi.

Mae Andrew Hill mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty ac mewn coma.

Credir bod o leiaf 11 o bobl wedi’u lladd pan blymiodd ei awyren Hawker Hunter i ffordd yr A27 gan wrthdaro a nifer o gerbydau.

Dywed Heddlu Sussex eu bod nhw’n ofni y gallai nifer y meirw gynyddu i 20.

Mewn datganiad heddiw, dywedodd teulu Andrew Hill eu bod wedi “tristau’n  ofnadwy am y golled ac yn anfon ein cydymdeimlad i deuluoedd y rhai sydd wedi’u heffeithio yn ystod y cyfnod anodd hwn.”

Mae’r teulu hefyd wedi diolch i’r gwasanaethau brys am eu hymateb i’r digwyddiad ac i’r timau meddygol yn Ysbyty Brenhinol Sussex sy’n darparu gofal i Andrew Hill.

Ymhlith y tri fu farw sydd wedi cael eu henwi mae’r pêl-droedwyr Matthew Grimstone a Jacob Schilt, y ddau’n 23 oed, a’r hyfforddwr personol Matt Jones, 24 oed.

Mae mam Matthew  Grimstone wedi ymuno a nifer o ASau sy’n galw am adolygu rheolau diogelwch sioeau awyr.

Dywedodd Sue Grimstone y dylid cynnal sioeau awyr dros y môr er mwyn osgoi trasiedi arall o’r fath.

Mae’r Awdurdod Hedfan Sifil (CAA), sy’n gyfrifol am osod y canllawiau ar gyfer sioeau awyr, wedi dweud y byddan nhw’n ystyried a oes angen adolygu’r rheolau diogelwch.

Mae disgwyl i weddillion yr awyren gael eu symud gan graen heddiw.