Mae ymchwiliad gan Gomisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu (IPCC) i’r modd yr oedd Heddlu Gogledd Cymru wedi delio gyda gwybodaeth am gam-drin plant wedi canfod nad oes achos i’w ateb.

Roedd yr ymchwiliad wedi edrych i’r modd yr oedd Heddlu’r Gogledd wedi delio gyda gwybodaeth rhwng mis Tachwedd 2013 a mis Hydref 2014 a oedd wedi cael ei drosglwyddo iddyn nhw gan y Ganolfan Cam-fanteisio ar Blant a’u Hamddiffyn Ar-lein (CEOP).

Daeth y wybodaeth yn sgil Prosiect Spade yn Toronto, Canada a oedd yn ymchwilio i bobl a oedd wedi prynu DVDs a oedd yn cynnwys delweddau o blant noeth.

Ar ôl i Heddlu’r Gogledd ymgynghori gyda CEOP ynglŷn â chanlyniadau eu hymholiadau, fe ddarganfuwyd  nad oedd camau wedi cael eu cymryd yn erbyn tri pherson a oedd wedi cael eu henwi mewn gwybodaeth ychwanegol a roddwyd iddyn nhw.

O ganlyniad roedd Heddlu’r Gogledd wedi cyfeirio ei hun at yr IPCC ar 21 Hydref 2014 ac fe ddechreuodd yr ymchwiliad annibynnol.

‘Dim achos i’w ateb’

Dywedodd comisiynydd yr IPCC Jan Williams bod eu hymchwiliad wedi dod i’r casgliad “nad oedd achos i’w ateb yn erbyn unrhyw un yn Heddlu Gogledd Cymru am dorri safonau proffesiynol.

“Mae CEOP hefyd wedi diolch i Heddlu’r Gogledd am dynnu eu sylw at anghysondebau yn y wybodaeth a gafodd ei ddarparu.

“Roedd yr ymchwiliad serch hynny wedi darganfod bod yna faterion mewnol ynglŷn â sut yr oedd gwybodaeth yn cael ei chyfathrebu rhwng y gwahanol dimau o fewn y llu a hoffwn ddiolch i Heddlu’r Gogledd am weithredu’n brydlon ar ôl i hynny ddod i’r amlwg,” meddai.