Mae capten tîm criced Lloegr, Alastair wedi derbyn tlws y Lludw ar ddiwedd y gyfres yn erbyn Awstralia ar gae’r Oval yn Llundain.

Cafodd darpar-gapten Awstralia, Steve Smith ei enwi’n seren y pumed prawf wrth iddo baratoi i olynu Michael Clarke, sydd wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol o griced.

Roedd Awstralia’n fuddugol yn y prawf olaf o fatiad a 46 o rediadau, ond fe gollon nhw’r gyfres o 3-2.

Collodd Lloegr eu pedair wiced olaf am 83 o rediadau ar ddiwrnod glwyb yn Llundain, ac fe gawson nhw eu bowlio allan am 286.

Daeth y gyfres i ben wrth i’r wicedwr Peter Nevill ddal ei afael ar belen lac gan Peter Siddle at y batiwr llaw chwith, Moeen Ali.

Cafodd batiwr agoriadol Awstralia, Chris Rogers, sydd hefyd yn ymddeol, ei enwi’n seren y gyfres a ddechreuodd yn y Swalec SSE yng Nghaerdydd ar Orffennaf 8.

Joe Root, batiwr rhyngwladol rhif un y byd, gafodd ei ddewis gan hyfforddwr Awstralia, Darren Lehmann a phrif ddewiswr Lloegr, James Whitaker i dderbyn tlws Compton-Miller fel chwaraewr disgleiriaf Lloegr yn ystod y gyfres.