Dywed Heddlu Swydd Sussex eu bod nhw’n credu bod 11 o bobol wedi marw wedi i awyren Hawker Hunter blymio i ganol ffordd A27 yn Shoreham yn ystod sioe awyr brynhawn ddoe.
Daeth cadarnhad eisoes fod saith o bobol wedi marw, ond mae’r heddlu’n disgwyl darganfod rhagor o gyrff.
Maen nhw wedi dweud ei bod hi’n “debygol iawn” fod 11 o bobol wedi marw.
Ond dydy’r un ohonyn nhw ddim wedi cael ei adnabod yn ffurfiol eto.
Eisoes, mae adroddiadau wedi enwi tri o’r meirw – Matthew Grimstone, Jacob Schilt a Matt Jones.
Roedd Matthew Grimstone a Jacob Schilt ar eu ffordd i gêm bêl-droed fel aelodau o dîm Worthing United.
Y trydydd enw i’w gyhoeddi yw Matt Jones, 24, oedd yn gweithio fel hyfforddwr personol.
Mae’r peilot mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty yn dilyn y digwyddiad ar ffordd A27 yn Shoreham brynhawn Sadwrn.
Mae gwasanaeth arbennig wedi’i gynnal mewn eglwys yn Shoreham i gofio am y rhai fu farw.
Cafwyd munud o dawelwch yn Eglwys St Mary de Haura.
Dywedodd cadeirydd Cyngor Bwrdeistref Adur, Carson Albury fod y gymuned mewn sioc.