Mae dau bêl-droediwr ymhlith y rhai fu farw ar ôl i awyren Hawker Hunter blymio i ganol ffordd brysur yn ystod sioe awyr yn Swydd Sussex.

Bu farw saith o bobol, ac mae’r peilot mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty yn dilyn y digwyddiad ar ffordd A27 yn Shoreham brynhawn Sadwrn.

Cafodd enwau Matthew Grimstone a Jacob Schilt, oedd yn chwarae i Worthing United, eu cyhoeddi y bore ma.

Roedden nhw’n teithio mewn car i chwarae yn erbyn Loxwood pan gawson nhw eu lladd.

Cafodd yr ornest ei gohirio yn dilyn y digwyddiad.

Y trydydd enw i’w gyhoeddi yw Matt Jones, 24, oedd yn gweithio fel hyfforddwr personol.

Mae gwasanaeth arbennig wedi’i gynnal mewn eglwys yn Shoreham i gofio am y rhai fu farw.

Cafwyd munud o dawelwch yn Eglwys St Mary de Haura.

Dywedodd cadeirydd Cyngor Bwrdeistref Adur, Carson Albury fod y gymuned mewn sioc.