Mae problemau technegol yn golygu na fydd canolfan iechyd newydd yn Llangollen yn agor am dair wythnos.
Roedd disgwyl i’r ganolfan £5 miliwn agor ddydd Llun yn dilyn y penderfyniad dadleuol i gau ysbyty cymunedol y dref.
Cafodd ei gau fel rhan o gynlluniau Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i symud cleifion mewnol i ysbyty’r Waun ger Wrecsam.
Ond ni fydd yn agor tan Fedi 14 oherwydd trafferthion gyda chyfrifiaduron a llinellau ffôn.