Mae Heddlu’r Alban yn chwilio am fachgen 10 mlwydd oed sydd wedi mynd ar goll yn Inverness.

Y tro diwetha’ i neb weld Callum Ross, sy’n enedigol o’r ddinaw, oedd yn ardal Brudes Hill y prynhawn yma.

Mae disgrifiad yr heddlu yn dweud ei fod yn hogyn tenau gyda gwallt brown tywyll. Roedd yn gwisgo top pêl-droed Rangers gyda llewys hir; trowsus loncian o liw llwyd gyda streipen wen i lawr ochr y goes; a phâr o drênars Nike.

Roedd hefyd yn gwisgo mwclis am ei wddw gydag addurniadau pren arno.