Mae gwarchae saith awr wedi dod i ben yn Llundain, ac mae dyn wedi’i anafu’n ddifrifol ar ôl cael ei saethu gan yr heddlu.

Fe ddechreuodd y cyfan ddoe, pan oedd heddlu’n hebrwng swyddog tai i gyfeiriad yn Lambeth, de Llundain, ar gyfer taflu rhywun allan o’i gartre’. Am 9.45yb, fe geisiodd plismyn fynd i mewn i’r cyfeiriad ac, wrth iddyn nhw wneud, fe welwyd dyn yn dod allan o un o’r ystafelloedd.

Aeth yr heddlu allan, ac fe gafodd negydydd a Gwasanaeth Ambiwlans Llundain eu galw i’r fan. Am 4.45yp ddoe, fe gafodd y dyn ei saethu gan heddlu arfog y tu allan i’r cyfeiriad.

Fe dderbyniodd y dyn 34 oed driniaeth yn y fan a’r lle gan staff yr ambiwlans, cyn cael ei gludo i ysbyty yn ne Llundain. Mae bellach mewn cyflwr sefydlog.

Mae gwn wedi’i gymryd o’r cartre’, ac mae’n cael ei brofi’n fforensig ar hyn o bryd. Mae Scotland Yard yn gwrthod datgelu pa fath o arf ydi o.

Mae ymchwiliad annibynnol ar y gweill gan Gomisiyinydd Heddlu a Throsedd.