Malala Yousafzai
Mae Malala Yousafzai wedi llwyddo i gael chwe A* a phedair gradd A yn ei arholiadau TGAU.

Fe lwyddodd Malala Yousafzai i osgoi marwolaeth o drwch blewyn yn 2012 wedi iddi gael ei saethu yn ei phen gan y Taliban yn Nyffryn Swat ym Mhacistan.

Cafodd ei thrin yn Ysbyty Brenhines Elizabeth yn Birmingham, ac ef gafodd wobr heddwch Nobel am ei hymdrechion.

Fe ddatgelodd ei thad Ziauddin Yousafzai ganlyniadau ei ferch mewn neges ar wefan gymdeithasol Twitter.

Ysgrifennodd: “Mae fy ngwraig Toor Pekai a minnau yn falch o Malala am gael 6 A seren a 4 A . #addysg o bob plentyn.”

Fe astudiodd Malala Yousafzai, sy’n 18 oed, yn Ysgol Uwchradd Edgbaston yn Birmingham.