Mae gyrrwr lori sbwriel wnaeth basio allan tra’n gyrru lori ar stryd yn Glasgow, wedi gwrthod ymddiheuro am farwolaeth chwech o gerddwyr mewn ymchwiliad heddiw.

Mae cyfreithwyr sy’n cynrychioli teuluoedd y dioddefwyr wedi beio Harry Clarke, 58 oed, am y ddamwain.

Roedd wedi methu dweud wrth ei doctor a’i gyflogwyr am ei hanes o lewygu a chyfnodau o bendro, cyn y ddamwain ar Ragfyr 22 y llynedd, a achosodd farwolaeth chwech o gerddwyr.

Fe gafodd Harry Clarke ei gyhuddo gan Dorothy Bain QC, ar ran teulu Jacqueline Morton, o ddweud celwyddau yn ei ffurflen gais a’i ffurflenni DVLA a alluogodd iddo gadw ei drwydded i yrru cerbydau trwm.

Fe wnaeth Swyddfa Erlyn y Goron benderfynu peidio â dwyn cyhuddiadau yn erbyn Harry Clarke.

Ond yn ystod yr ymchwiliad fe ddywedodd cyfreithiwr ar ran teulu un o’r meirw wrth Harry Clarke: “Rwyf am ofyn i chi ymddiheuro i’r bobl a fu farw ar y diwrnod hwnnw.

“Rwyf eisiau i chi ymddiheuro am y celwyddau a ddywedwyd yn 2010, a’r celwyddau hynny a arweiniodd at farwolaeth chwech o bobl.”

Ymatebodd Harry Clarke: “Na, fedra i ddim dweud hynny.”