Old Bailey, Llundain
Mae giang o sipsiwn Romani wedi’i gael yn euog o werthu merched bregus o Slofacia fel gwragedd i ddynion yng ngwledydd Prydain, ac o’u trin fel “darnau o gig”.

Yn ol y dystiolaeth a gyflwynwyd yn llys yr Old Bailey yn Llundain, roedd y merched tlawd wedi’u recriwtio a’u cludo o’u gwlad eu hunain er mwyn cael eu gwerthu i ddynion o dras Indiaidd a Phacistanaidd sydd yn despret am gael aros yng ngwledydd Prydain. Fe ddaeth y sgêm i’r wyneb wedi i un o’r merched gael ei threisio gan y dyn Pacistanaidd yr oedd hi wedi’i gwerthu iddo ym mis Mawrth 2013.

Tra’r oedd hi’n derbyn triniaeth yn yr ysbyty yn dilyn yr ymosodiad, fe ddadlennodd wrth nyrsus a meddygon ei bod wedi cael ei threisio a’i bod wedi’i phrynu a’i gwerthu. Dyna pryd y lawnsiwyd ymchwiliad yr heddlu i’r mater.

Fe gafwyd Roman Ziga, 26; ei frawd, Jozef Ziga, 28; ac Igor Boros, 43; i gyd o ardal Kosice yn Slofacia, yn euog o recriwtio pedair dynes yn eu mamwlad. Fe gafwyd Roman Ziga yn ddieuog o brynu a gwerthu pobol, ac o droseddau eraill yn ymwneud â mewnfudo.

Roedd tri aelod arall o’r giang sy’n gweithio o wledydd Prydain – Tibor Suchy, 29; ei wraig, Viktoria Sanova, 29; a’i frawd-yng-nghyfraith, Rene Sana, 31 o Gravesend – wedi’u cael yn euog yn y gorffennol o fasnachu un o’r merched. Fe bledion nhw’n euog i brynu a gwerthu’r tair dynes arall yn ystod yr achos a barodd 13 wythnos.

Nid oes dyddiad wedi’i bennu eto gogyfer â dedfrydu’r giang.