Yvette Cooper
Mae yna honiadau bod un o brif ffigyrau Llafur Newydd yn ceisio atal y gwleidydd asgell chwith, Jeremy Corbyn, rhag dod yn arweinydd trwy ymyrryd yn y broses.
Bu raid i un o’r pedwar ymgeisydd, Yvette Cooper, ymateb i’r honiad bod Arglwydd Peter Mandelson wedi gofyn iddi hi a’i chyd ymgeiswyr, Andy Burnham a Liz Kendall, i roi’r gorau i’w cais i olynu Ed Miliband, er mwyn ail-ddechrau’r broses.
Bu raid i Yvette Cooper wynebu’r honiadau ar raglen Today, BBC Radio 4.
“Nid wyf wedi trafod hyn gyda Peter Mandelson, mae yna rywfaint o farn y dylai’r broses gael ei atal gan fod cymaint o bobl yn ymuno ar y funud olaf,” meddai.
Aeth Yvette Cooper ymlaen i ddweud bod angen gofyn y cwestiwn i’r ymgeiswyr eraill oherwydd ei bod hi am “ganolbwyntio ar yr etholiad.”
“Rhywun heblaw am Corbyn”
Yn y dyddiau diwethaf mae aelodau Llafur wedi bod yn derbyn eu papurau pleidleisio.
Dros y penwythnos mae’r ymgyrch i ethol “rhywun heblaw Corbyn” wedi body n cyflymu gyda’r cyn-Prif Weinidogion, Tony Blair a Gordon Brown, yn rhybuddio aelodau i beidio ethol Jeremy Corbyn oherwydd, nid ydynt yn credu gallai Llafur ennill etholiad gydag ef fel arweinydd.
Mae’r Jeremy Corbyn 20 pwynt ar y blaen mewn nifer o bolau piniwn o aelodau, yn enwedig ymysg pobl ifanc ac aelodau newydd.
Dros y penwythnos honnwyd y buasai Liz Kendall, sy’n bell tu ôl i’r ymgeiswyr eraill yn y polau piniwn yn barod i sefyll i lawr i gefnogi Andy Burnham fel ymgeisydd y tir canol pe bai Yvette Cooper yn gwneud hefyd. Ond gwrthod gwnaeth hi yn ôl y son.
Bydd arweinydd newydd Llafur yn cael ei gyhoeddi ar Fedi 12.