Fe fydd cyn-Brif Weinidog Prydain, Gordon Brown yn cynnig geiriau o gyngor heddiw i’r pedwar sydd yn y ras i fod yn arweinydd y Blaid Lafur.

Mewn araith, fe fydd Brown yn cyfeirio at bwysigrwydd “pwer at ddiben”.

Roedd Brown yn un o’r ffigurau blaenllaw a arweiniodd yr ymgyrch ‘Na’ adeg refferendwm annibyniaeth yr Alban.

Yn y cyfamser, mae un o’r pedwar, Andy Burnham yn honni mai fe yw’r unig un all atal y ceffyl blaen, Jeremy Corbyn rhag rhwygo’r blaid.

Mewn pôl diweddar, roedd 21% o’r farn y byddai Corbyn yn rhoi hwb i obeithion Llafur o ennill yr etholiad cyffredinol nesaf.

Roedd Corbyn ychydig ar y blaen i Burnham (19%), Yvette Cooper (15%) a Liz Kendall (11%).

Ond dywedodd 31% o’r rhai atebodd holiadur ar ran yr Independent on Sunday a’r Sunday Mirror fod Corbyn yn debygol o leihau gobeithion ei blaid o ennill y tro nesaf.

Dywedodd Andy Burnham wrth bapur newydd y Sunday People: “Fi yw’r unig berson yn y ras yma all guro Jeremy.

“Yn y 1980au, fe ddechreuon ni frwydro’n erbyn ein gilydd gan adael y ffordd yn glir i Margaret Thatcher dorri ei ffordd drwy gymunedau Llafur.

“Fydda i ddim yn gadael i hynny ddigwydd y tro yma.”

Fe fydd Andy Burnham yn ymweld â Wrecsam, tra bydd Liz Kendall yn dod i Gaerdydd wrth i’r ras boethi.