Fe fydd gwasanaeth arbennig yn cael ei gynnal yn Eglwys Gadeiriol Llandaf heddiw i nodi 70 mlynedd ers Diwrnod VJ.

Bydd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones yn darllen yn ystod y gwasanaeth sy’n nodi terfyn ar ran Siapan yn yr Ail Ryfel Byd, ddyddiau ar ôl i fomiau atomig gael eu gollwng ar Hiroshima a Nagasaki.

Mae gwasanaethau eraill yng Nghaerdydd a Llandudno, gan gynnwys gorymdaith yn Llandudno.

Mae’r gwasanaeth cenedlaethol yng Nghaerdydd yn agored i’r cyhoedd, ac mae wedi’i drefnu gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd.