Mae dyn 22 oed wedi’r arestio ar amheuaeth o lofruddio dyn a gafwyd yn farw yn ei wely ychydig oriau wedi iddo gael ei anafu mewn bar yn Swydd Efrog.

Yn ôl adroddiadau, fe gafodd Lewis Siddall, 24, ei anafu mewn ymosodiad yn y bar sy’n dweud yr enw VDKA yn Doncaster, toc wedi 11 o’r gloch nos Iau.

Fe ddychwelodd i’w gartre’ yn Skellow, Doncaster, ond fe ganfuwyd ei gorff tua 5.20yb ddydd Gwener.

Mae ditectifs Heddlu De Swydd Efrog wedi cadarnhau eu bod nhw’n holi dyn ar amheuaeth o lofruddio Mr Siddall.