Mae heddlu yn Sweden wedi dod o hyd i ddau gwdyn yn cynnwys hylif ymfflamychol mewn canolfan i fewnfudwyr a oedd yn lloches i ddyn o Eritrea a drywanodd ddau berson i farwolaeth mewn siop Ikea yn gynharach yr wythnos hon.

Mae Asiantaeth Mewnfudo Sweden wedi rhyddhau datganiad yn dweud fod yr 83 o bobol oedd yn byw yn y ganolfan wedi eu symud allan dros dro i Arboga yng nghanolbarth y wlad. Does neb wedi’i arestio hyd yn hyn.

Roedd yr heddlu wedi bod yn cadw llygad barcud ar y ganolfan ers dydd Llun, pan aeth dyn 36 oed o Eritrea – sydd heb ei enwi’n gyhoeddus eto – i ladd dynes o Sweden a’i mab mewn siop ddodrefn yn Vasteras, i’r gorllewin o’r brifddinas, Stockholm.