Gwleidydd sy’n cael ei hystyried yn seren y dyfodol sydd wedi cael ei hethol yn arweinydd y Blaid Lafur yn yr Alban

Fe ddaeth Kezia Dugdale i’r brig yn y ras am arweinyddiaeth y blaid, a hynny ddim ond pedair blynedd ers iddi gael ei hethol yn Aelod o Senedd yr Alban.

Fe drechodd yr hynagfwr Ken Macintosh mewn etholiad a sbardunwyd gan ymddiswyddiad y cyn-Aelod Seneddol Jim Murphy yn fuan wedi colledion mawr Llafur yn yr etholiad cyffredinol fis Mai.

Cyhoeddwyd canlyniad y bleidlais yn Stirling heddiw, yn dilyn ymgyrch lle’r oedd Kezia Dugdale yn addo “dechrau newydd” i Lafur yn yr Alban.