Ysbyty Gwynedd, Bangor
Fe gafodd dyn ifanc ei gudo i’r ysbyty toc wedi hanner nos, nos Wener, wedi iddo syrthio i lawr llethr serth mewn llecyn gwyliau ger Llanbedr, Harlech.

Fe ddigwyddodd y ddamwain ar ynys Mochras, ac mae’r dyn 26 oed wedi diodde’ anafiadau i’w ben, i’w wyneb ac i’w frest.

Fe gafodd ei gludo i Ysbyty Gwynedd, Bangor, gan hofrennydd gwylwyr y glannau.