Mae pedwar o ddynion wedi’u cludo i’r ysbyty yn Llundain, wedi iddyn nhw gael eu trywanu yn ystod cwffas fawr ar y stryd.

Fe gafodd yr heddu eu galw i Findhorn Street yn Poplar, dwyrain Llundain, toc cyn 10 o’r gloch nos Lun.

Fe ddaeth swyddogion o hyd i ddyn wedi’i drywaun, ac fe gafodd ei gludo i’r ysbyty’n syth bin. Roedd tri dyn arall hefyd yn diodde’ o anafiadau tebyg, ac fe gawson nhw eu trin cyn eu cludo i’r ysbyty.

Mae’r pedwar dyn bellach mewn cyflwr sefydlog, yn ol Scotland Yard, ac mae’r heddlu’n ymchwilio i’r digwyddiad.

Does neb wedi’i arestio hyd yma.