Mae’r frigâd dân ar hyn o bryd yn delio â thân difrifol mewn siop tships yn Llangefni.

Cafodd diffoddwyr eu galw i’r safle ar Stryd yr Eglwys tua 10 o’r gloch fore heddiw

Does dim adroddiadau bod unrhywun wedi ei anafu, ac mae pump injan dân yno’n ymladd fflamau ar hyn o bryd.

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru fod yna bryderon y gallai’r tân ledu i’r adeilad drws nesa’.

“Mae criwiau o Fangor, Porthaethwy, Rhosneigr a Chaergybi ar y safle ar hyn o bryd,” meddai.