Mae cynnydd mawr wedi bod yn y nifer o fragdai bach ym mhob rhan o Brydain wrth i dri bragdy newydd agor bob wythnos dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Yn ôl arbenigwyr, mae hyn wedi bod yn hwb i’r economi ac yn enwedig i’r sector cwrw a thafarndai sydd bellach yn cyfrif am 869,000 o swyddi.

Mae’r cynnydd wedi cael ei groesawu gan Marcus Jones, y gweinidog yn llywodraeth San Steffan sydd â chyfrifoldeb am dafarndai.

“Mae’r adfywiad mewn bragu yn golygu ein bod ni’n creu cwrw sydd ymhlith y gorau yn y byd,” meddai.

“Mae hyder cynyddol yn y sector cwrw a thafarndai gyda thafarndai’n arallgyfeirio, a diwydiant bragu llewyrchus.”

Dywedodd na fu erioed amser gwell i yfwyr cwrw gyda’r fath amrywiaeth yn cael ei fragu ledled Prydain.

Daw adroddiad y llywodraeth wrth i ŵyl gwrw Camra agor yn Olympia Llundain yr wythnos yma.