Jeremy Corbyn (llun: Wikipedia)
Mae Jeremy Corbyn wedi dweud y gallai adfer cymal dadleuol o gyfansoddiad y Blaid Lafur os caiff ei ethol yn arweinydd.

Cafodd Cymal IV o’r cyfansoddiad, sy’n ymrwymo’r blaid i berchnogaeth gyhoeddus diwydiannau ei ddileu o dan arweinyddiaeth Tony Blair yn 1994.

Roedd hynny’n cael ei weld ar y pryd fel gweithred arwyddocaol i liniaru ofnau’r cyhoedd o lywodraeth Lafur.

Mewn cyfweliad gyda phapur newydd The Independent on Sunday, awgryma Jeremy Corbyn y gallai ystyried adfer Cymal IV fel rhan o ymrwymiad i wladoli rhai gwasanaethau.

“Efallai y dylen ni siarad am beth yw amcanion y blaid, boed hynny’n adfer Cymal IV fel yr oedd neu gymal gwahanol, ond ddylen ni ddim bod ofn sôn am fuddsoddi cyhoeddus mewn diwydiant a rheolaeth gyhoeddus o’r rheilffyrdd,” meddai.

“Mae gen i ddiddordeb yn y syniad o gael set mwy cynhwysfawr a chliriach o amcanion. Fe fyddwn i eisiau set o amcanion sy’n cynnwys perchnogaeth gyhoeddus rhai pethau angenrhediol fel y rheilffyrdd.”

Byddai adfer Cymal IV yr un mor symbolaidd â phenderfyniad gwreiddiol Tony Blair i’w ddileu – ac yn arwydd o gefnu’n llwyr ar Lafur Newydd.

Mae Liz Kendall, un arall o’r ymgeiswyr am yr arweinyddiaeth, wedi wfftio at sylwadau Jeremy Corbyn.

“Mae hyn yn dangos nad oes dim byd newydd ynghylch gwleidyddiaeth Jeremy Corbyn,” meddai.

“Roedd bywyd wedi symud ymlaen o’r hen Gymal IV yn 1994 heb sôn am 2015. Plaid y dyfodol ydym ni nid cymdeithas warchodaeth.”