Y Frenhines Elizabeth II
Mae Heddlu Llundain yn tynhau trefniadau diogelwch ar gyfer dathliadau i nodi 70 mlynedd ers diwedd yr Ail Ryfel Byd yr wythnos yma ar ôl adroddiadau am gynllwyn gan eithafwyr Islamaidd i lofruddio’r Frenhines.
Fe fydd y Frenhines ac aelodau eraill o’r teulu brenhinol yn cymryd rhan mewn cyfres o ddigwyddiadau ddydd Sadwrn i nodi diwrnod y fuddugoliaeth yn erbyn Japan ar 15 Awst.
Y gred yw mai bwriad arweinwyr Islamic State yn Syria yw trefnu bod jihadyddion ym Mhrydain yn gosod bom yng nghanol Llundain yn ystod y dathliadau.
Yn ôl yr heddlu, mae bygythiad o du rhyfelwyr o Brydain yn dychwelyd o Syria, a hefyd gan eithafwyr nad ydyn nhw erioed wedi bod allan o Brydain yn cael eu hannog i gyflawni ymosodiadau yma.
Mae’r heddlu’n pwyso ar y cyhoedd i fod ar eu gwyliadwriaeth am unrhyw beth amheus.
Fe wnaeth byddin Japan ildio ar 14 Awst 1945, a fyth ers hynny mae’r diwrnod canlynol wedi cael ei gydnabod fel diwrnod VJ.