Mae un o gefnogwyr pennaf Liz Kendall wedi cyhuddo’r ymgeiswyr eraill yn y ras am arweinyddiaeth y Blaid Lafur o geisio’i phardduo.

Mae si ar led bod Kendall mewn perthynas â John Woodcock, un o’i phrif gefnogwyr wrth iddi geisio curo Jeremy Corbyn, Andy Burnham ac Yvette Cooper yn y ras i arwain y blaid.

Mae John Woodcock yn gwadu eu bod nhw mewn perthynas, gan ddweud bod y si yn “hollol annerbyniol”.

Daeth Liz Kendall i wybod am y si gan ddau newyddiadurwr, oedd yn honni eu bod nhw wedi cael gwybod gan un o’r ymgeiswyr eraill.

Dywedodd John Woodcock wrth bapur newydd y Daily Telegraph fod y si yn “niweidiol”, ac mai’r bwriad yw “difetha ymgyrch Liz”.

Ychwanegodd: “Mae hyn wedi rhoi mewnwelediad i fi o’r math o anhawster mae cymaint o fenywod yn dod ar ei draws, pan ddywedir mai’r unig rheswm maen nhw yno yw am eu bod nhw’n cysgu gyda rhywun neu fod rhywun yn eu ffansio nhw.”

Nid dyma’r ymgais gyntaf i niweidio ymgyrch Liz Kendall.

Mae ymgyrchwyr ar ei rhan hi eisoes wedi cwyno am fod ei gwrthwynebwyr wedi tynnu sylw at y ffaith nad oes ganddi blant.