Fe fydd profion recriwtio’r SAS yn cael eu haddasu yn dilyn marwolaethau tri o filwyr ym Mannau Brycheiniog yn 2013, yn ôl papur newydd y Times.

Bu farw Edward Maher a Craig Roberts o ganlyniad i’r gwres wrth gwblhau’r profion ym mis Gorffennaf 2013.

Bu farw James Dunsby yn yr ysbyty yn Birmingham yn ddiweddarach.

Mae disgwyl i’r profion newydd amddiffyn ymgeiswyr rhag effeithiau’r gwres.

Daw’r newyddion lai na mis ar ôl i grwner ddweud bod esgeulustod wedi chwarae rhan ym marwolaethau’r tri wrth iddyn nhw gerdded am 16 milltir mewn gwres llethol.

Mae’r newidiadau fydd yn cael eu cyflwyno’n cynnwys cynnal prawf tywydd, a allai arwain at ohirio profion os yw hi’n rhy boeth neu oer.

Fe fydd sesiynau ymarfer hefyd yn cael eu cyflwyno er mwyn rhoi cyfle i ymgeiswyr ymgyfarwyddo â’r amodau y byddan nhw’n eu hwynebu.

Fe fydd hefyd ragor o orsafoedd dŵr ar gael i’r ymgeiswyr yn ystod y profion.

Bydd y newidiadau’n cael eu cyflwyno mewn pryd ar gyfer yr ymgeiswyr newydd y flwyddyn nesaf.

Ond mae rhai wedi beirniadu’r cynlluniau, gan ofni bod yr SAS yn symleiddio’r profion ac y gallai hynny arwain at ostwng safonau.

Fis diwethaf, dywedodd crwner y gellid fod wedi osgoi marwolaethau’r tri milwr ym Mannau Brycheiniog pe bai swyddogion wedi dilyn canllawiau gwres y Weinyddiaeth Amddiffyn.

Dywedodd fod rhannau o’r profion yn annigonol ac yn anaddas, a bod prinder dŵr yn rhannol gyfrifol.

Mae’r Fyddin wedi ymddiheuro am y methiannau.

Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi gwrthod trafod y newidiadau arfaethedig.