Mae dau gwmni cyffuriau wedi cael eu cyhuddo o godi gormod o arian ar y Gwasanaeth Iechyd (GIG) am feddyginiaeth i drin epilepsi.

Mae’r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) yn dweud ei fod yn ymchwilio i ddarganfod a oedd Pfizer a Flynn Pharma wedi codi prisiau “annheg a gormodol” am dabledi phenytoin sodium, sy’n mynd yn groes i reolau cystadleuaeth y DU a’r Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd uwch gyfarwyddwr y CMA bod gan fusnesau sydd mewn safle cryf “ddyletswydd i sicrhau nad yw eu hymddygiad yn amharu ar gystadleuaeth ac nad yw eu prisiau yn ormodol nac yn annheg.”

Ychwanegodd bod y prisiau wedi arwain at gynnydd sylweddol yng nghostau cyffuriau’r GIG am gyffur “sy’n hynod o bwysig i ddegau o filoedd o gleifion.”

Cynnydd

Dywed y CMA bod y GIG wedi gwario tua £2.3 miliwn am dabledi phenytoin sodium cyn mis Medi 2012 ond bod y bil wedi cynyddu i fwy na £50 miliwn yn 2013 a mwy na £40 miliwn y llynedd.

Mae tabledi phenytoin sodium yn cael eu defnyddio i reoli symptomau epilepsi ac yn cael eu defnyddio gan fwy na 50,000 o gleifion yn y DU.

Mae Pfizer yn cynhyrchu tabledi phenytoin sodium sy’n cael eu dosbarthu gan Flynn Pharma i fferyllfeydd yn y DU.

Mae’r CMA wedi cyhoeddi datganiad sy’n codi pryderon am y prisiau mae Pfizer wedi codi ar Flynn Pharma, a’r prisiau mae Flynn Pharma wedi eu codi ar eu cwsmeriaid ers mis Medi 2012.

Dywed Pfizer a Flynn Pharma eu bod nhw’n cydweithredu’n llawn gydag ymchwiliad y CMA.