Mae teuluoedd y bobol a ddiflannodd tra’n teithio ar awyren Malaysia Airlines MH370 y llynedd wedi beirniadu awdurdodau Malaysia a Ffrainc.

Mae’r ddwy wlad yn anghydweld tros ddarn o’r awyren gafodd ei ddarganfod ar ynys Réunion yng nghefnfor India.

Tra bod Malaysia wedi cadarnhau bod y gydran wedi dod oddi ar awyren Boeing 777, mae Ffrainc yn dweud bod angen cynnal rhagor o brofion cyn cadarnhau’r darganfyddiad.

Wrth gyhoeddi’r newyddion, dywedodd prif weinidog Malaysia, Najib Razak ei fod yn gobeithio bod y darganfyddiad yn dod a’r ansicrwydd i ben i deuluoedd 239 o bobol.

Ond mae awdurdodau Ffrainc yn mynnu bod “arwyddion cryf” yn unig mai o’r awyren MH370 y daeth y gydran.

Mae gweinidog trafnidiaeth Malaysia, Liow Tiong Lai wedi mynnu bod cofnodion yn profi bod y gydran yn perthyn i awyren MH370.

Dywedodd aelod o un o’r teuluoedd sydd wedi cael eu heffeithio fod angen “atebion pendant” arnyn nhw.

Mae eraill wedi beirniadu’r diffyg cydweithio rhwng y ddwy wlad cyn gwneud cyhoeddiad.

Dydy hi ddim yn glir eto a oedd diffyg cyfathrebu rhwng y ddwy wlad wedi arwain at gyhoeddiad Malaysia, neu a oedd Malaysia wedi mynd ati’n annibynnol i wneud y cyhoeddiad.