Ymfudwyr anghyfreithlon yn ceisio dringo ar lori yn Calais
Mae nifer y gyrwyr loriau a chwmnïau cludiant sydd wedi cael dirwy am gario ymfudwyr anghyfreithlon i’r DU wedi mwy na threblu dros y tair blynedd diwethaf, yn ôl ffigurau.

O dan reolau’r Swyddfa Gartref fe allai gyrwyr wynebu dirwy o hyd at £2,000 am bob person sy’n cael eu darganfod yn eu cerbyd mewn unrhyw borthladd yn y DU neu Dwnnel y Sianel.

Mae ffigurau’r Swyddfa Gartref a ddatgelwyd yn dilyn Cais Rhyddid Gwybodaeth gan y Press Association, yn dangos bod nifer y dirwyon wedi codi o 998 yn 2012/13 i 3,319 yn 2014/15.

Daw’r ffigurau wrth i filoedd o ymfudwyr anghyfreithlon gael eu darganfod yn ceisio mynd i  gerbydau yn Calais.